2 Ioan

2 John

1Llythyr gan Ioan yr arweinydd,

At yr eglwys – gwraig fonheddig sydd wedi ei dewis gan Dduw. Ac at ei phlant, sef chi sy'n credu, y rhai dw i'n eu caru go iawn. A dim fi ydy'r unig un. Mae pawb sy'n gwybod y gwir yn eich caru chi, 2am fod y gwir yn aros ynon ni, a bydd gyda ni am byth.

3Bydd haelioni rhyfeddol, a thrugaredd a heddwch dwfn Duw y Tad, a Iesu Grist ei Fab, yn aros gyda ni sy'n byw bywyd o gariad ac sy'n ffyddlon i'r gwir. 4Roeddwn i wrth fy modd o glywed fod rhai ohonoch chi yn byw felly – yn ffyddlon i'r gwir, fel mae'r Tad wedi gorchymyn i ni.

Caru ein gilydd

5Nawr, dw i ddim yn rhoi rhyw orchymyn newydd i chi fel eglwys. Dw i'n apelio atoch chi i gofio'r egwyddor sylfaenol sydd wedi bod gyda ni o'r dechrau, sef ein bod i garu'n gilydd. a 6Ystyr cariad ydy ein bod ni'n byw fel mae Duw'n dweud wrthon ni. Dyna glywoch chi o'r dechrau cyntaf. Dyna sut dŷn ni i fod i fyw.

7Mae llawer o rai sy'n twyllo wedi'n gadael ni a mynd allan i'r byd. Pobl ydyn nhw sy'n gwrthod credu fod gan Iesu Grist gorff dynol a'i fod yn ddyn go iawn. Twyllwyr ydyn nhw! Gelynion y Meseia! 8Gwyliwch, rhag i chi gael eich dylanwadu ganddyn nhw, a cholli'r wobr dych chi wedi gweithio mor galed amdani! Daliwch ati, er mwyn gwneud yn siŵr y byddwch yn cael eich gwobr yn llawn. 9Mae'r rhai sy'n mynd y tu hwnt i beth wnaeth Iesu Grist ei ddysgu wedi torri pob cysylltiad â Duw. Ond mae gan y rhai sy'n glynu wrth ddysgeidiaeth y Meseia berthynas gyda'r Tad a'r Mab. 10Os ydy rhywun yn dod atoch sydd ddim yn dysgu'r gwir, peidiwch eu gwahodd nhw i mewn i'ch tŷ. Peidiwch hyd yn oed eu cyfarch nhw. 11Mae unrhyw un sy'n rhoi croeso iddyn nhw yn eu helpu nhw i wneud drwg.

12Mae gen i lawer mwy i'w ddweud wrthoch chi, ond dw i ddim am ei roi ar bapur. Dw i'n gobeithio dod i'ch gweld chi, a siarad wyneb yn wyneb. Byddai hynny'n ein gwneud ni'n
1:12 ein gwneud ni'n: Mae rhai llawysgrifau yn dweud eich gwneud chi'n.
hapus go iawn!

13Mae plant eich chwaer eglwys yma – hithau wedi ei dewis gan Dduw – yn anfon eu cyfarchion.

Copyright information for CYM